Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru’n herio pencampwyr y byd, De Affrica fis Tachwedd yn ystod gemau’r Hydref.

Bydd y Spingboks yn cyrraedd Caerdydd ar Dachwedd 28 ar gyfer gêm olaf Cymru cyn tynfa Cwpan y Byd 2023.

Ffiji, Seland Newydd a’r Ariannin fydd y timau eraill fydd Cymru’n herio, gyda safleoedd swyddogol Rygbi’r Byd yn penderfynu ar yr hadau Cwpan y Byd.

Mae Cymru’n bumed yn y byd ar hyn o bryd, ond maent yn ymwybodol mai’r pedwar tîm gorau fydd ym mand un ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.

“Rydym yn hapus iawn gyda thair gêm ar brynhawn Sadwrn a chic gyntaf gynnar ddydd Sul,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips.

“Byddwn yn wynebu rhai i dimau gorau’r byd yr Hydref hwn, a’r ddau uchaf ar hyn o bryd, Seland Newydd a De Affrica.

“Os yr ydym am gynnal ein gobeithion o ennill Cwpan y Byd yn 2023, mae’n rhaid i ni wynebu a churo timau gorau’r byd yn gyson.”

Er bod De Affrica wedi trechu Cymru yn rownd gynderfynol Cwpan y byd llynedd, mae Cymru wedi ennill pump o’r saith gêm ddiwethaf yn ei herbyn.