Mae Hallam Amos wedi’i alw i garfan rygbi Cymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’n cymryd lle Owen Lane, sydd hefyd yn chwarae i ranbarth y Gleision, ar ôl iddo anafu llinyn y gâr fis diwethaf.

Gall Hallam Amos chwarae ar yr asgell neu yn safle’r cefnwr.

Mae e wedi ennill 22 o gapiau dros Gymru, ac roedd e’n aelod o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan.

Bydd Cymru’n herio Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 22).