Mae clwb rygbi Wasps wedi cadarnhau ymadawiad eu Cyfarwyddwr Rygbi Dai Young, wythnos ar ôl iddo gael ei symud o’i gyfrifoldebau gyda’r tîm.

Fe fu’r Cymro wrth y llyw ers 2011, ac fe gafodd ei ddyrchafu i’w rôl ddiweddaraf yn 2017 ar ôl i’r clwb ennill yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf ers 2008.

Mae ei fab Thomas yn chwarae i’r clwb.

“Bydd yn anodd gadael clwb a chriw o bobol sydd wedi golygu cymaint i fi dros y degawd diwethaf, ond dw i’n teimlo mai dyma’r amser cywir i’r clwb ac i fi fy hun,” meddai Dai Young.

“Hoffwn ddiolch i’r holl chwaraewyr, o’r gorffennol a’r presennol, a’r staff dw i wedi cydweithio â nhw, yn enwedig fy mhenaethiaid adran sydd wedi bod fel teulu.

“Hoffwn ddiolch hefyd i gefnogwyr Wasps sydd wedi bod yn anghredadwy yn eu cefnogaeth i fi a’r clwb, yn enwedig yn ystod yr adegau mwyaf anodd.

“Mae eu ffyddlondeb a’u cefnogaeth wedi golygu cymaint i bawb ohonom ac mae hynny wedi gwneud fy nhaith yn fwy arbennig fyth.”