Connacht 29–0 Gleision

Roedd buddugoliaeth bwynt bonws i Connacht wrth iddynt groesawu’r Gleision i Faes Chwarae Galway yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Dave Hoffernan a gafodd gais cyntaf y tîm cartref wedi ychydig llai na hanner awr, y bachwr yn torri’n rhydd wedi lein amddiffynnol flêr gan y Gleision.

Sgoriodd Peter Robb ail Connacht cyn yr egwyl cyn i John Porch ychwanegu’r trydydd yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Efallai mai pedwerydd y Gwyddelod a oedd cais gorau’r nososn serch hynny, Kyle Godwin yn rhedeg o’i linell 22 medr ei hun i sgorio a sicrhau pwynt bonws i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn bumed yn nhabl adran B y Pro14.

.

Connacht

Ceisiau: Dave Hoffernan 27’, Peter Robb 34’, John Porch 50’, Kyle Godwin 58’

Trosiadau: Jack Carty 28’, 51’, 60’

Cic Gosb: Jack Carty 6’

Cerdyn Melyn: Dennis Buckley 65’