Fydd Owen Williams, maswr Cymru, ddim yn chwarae eto ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar ôl anafu llinyn y gâr.
Roedd disgwyl iddo fod ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn, ond fe gafodd ei anafu wrth gynhesu, gyda Jarrod Evans yn camu i’r fainc yn ei le.
Ond fe fydd Josh Adams yn dychwelyd i’r cae ymarfer yr wythnos hon ar ôl cael ei anafu ei glin yn y gêm.Bu’n rhaid iddo adael y cae yn Stadiwm Aviva.

Bydd Cymru’n herio Ffrainc yn eu gêm nesaf ar Chwefror 22.

Asgellwr Ffrainc allan

Yn y cyfamser, fydd asgellwr Ffrainc, Vincent Rattez ddim ar gael i herio Cymru ar ôl torri asgwrn yn ei goes.

Fe ddaeth oddi ar y cae yn ystod y fuddugoliaeth o 35-22 dros yr Eidal ddydd Sul (Chwefror 9).

Fydd e ddim yn chwarae am weddill y gystadleuaeth.