Wayne Pivac ddim am “fynd i banig” ar ôl i Iwerddon drechu Cymru

Diweddarwyd am  
Wayne Pivac

Wayne Pivac

Llun: golwg360 / Alun Rhys Chivers

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud na fydd yn “mynd i banig” ar ôl i Gymru gael eu trechu gan Iwerddon o 24-14 ym Mhencapwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Chwefror 8).

Bydd Cymru’n herio Ffrainc yn Stadiwm Principality ymhen 13 diwrnod (Chwefror 23).

“Dy’n ni’n bendant ddim am fynd i banig,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’n rhaid i ni adolygu’r gêm. Mae’r hogiau wedi eu siomi oherwydd wnaethon ni ddim cymryd ein cyfleon.”

Y golled yn Nulyn oedd y tro cyntaf i Gymru golli gêm yn y Bencampwriaeth ers i Iwerddon eu curo ddwy flynedd yn ôl.

Ar ôl chwarae yn erbyn Ffrainc, bydd Cymru’n teithio i Twickenham i herio Lloegr cyn gorffen y bencampwriaeth gartref yn erbyn yr Alban.

“Mae’r gystadleuaeth yn mynd i fod yn dynn iawn eleni. Mae hynny’n amlwg yn barod.”

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn