Mae’r gêm rygbi rhwng merched Iwerddon a Chymru yn mynd yn ei blaen yn Donnybrook er gwaetha’r tywydd.

Mae Cymru’n mynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron dros y Gwyddelod, ond roedd disgwyl y gallai Storm Ciara daflu cysgod dros yr ornest.

Mae’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, a’r gic gyntaf am 1 o’r gloch.

Ond mae gêm yr Alban yn erbyn Lloegr wedi’i gohirio.