Mae Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, yn dweud eu bod nhw’n wynebu “her fawr” yn erbyn yr Eidal ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Chwefror 2).

Mae disgwyl i’r ornest fod yn un gystadleuol, ac roedd y flaenasgellwraig ar y cae pan gafodd Cymru eu trechu gan yr Eidal yn Stadiwm Principality ddwy flynedd yn ôl.

Gêm gyfartal 3-3 gafwyd y tymor diwethaf, ond mae’r capten yn awyddus i wneud yn iawn am y ddwy gêm ddiwethaf y tro hwn.

“Mae’n her fawr ac allwn ni ddim dianc rhag hynny,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg.

“Mae’r Eidal yn dîm da, fe gawson ni gêm gyfartal 3-3 y llynedd mewn brwydr dda ac fe wnaethon nhw ein curo ni yn Stadiwm Principality y flwyddyn cyn hynny.

“Roedd rhai ohonon ni’n chwarae yn y gêm honno ac ry’n ni eisiau dial am hynny, ond maen nhw’n mynd i fod yn dîm da fydd yn taflu popeth aton ni.

“Ry’n ni’n canolbwyntio ar ein perfformiad wrth ymarfer, a sut mae hynny’n cael ei drosglwyddo i’r gêm.

“Os cawn ni’r perfformiad yn iawn, bydd y canlyniad yn gofalu amdano’i hun.”

Y tîm

Bydd y merched yn hyderus ar ôl cael hydref llwyddiannus.

Enillon nhw dair allan o bum gêm, gan roi capiau i 14 o chwaraewyr newydd.

Maen nhw wedi cael hwb gyda’r newyddion fod Jasmine Joyce a Hannah Jones yn ymuno â’r garfan unwaith eto ar ôl bod yn chwarae yn Awstralia, ac mae Alisha Butchers yn dychwelyd i’r fainc.

Mae disgwyl i Kayleigh Powell, Gwenllian Pyrs a Kelsey Jones ddechrau gêm am y tro cyntaf, a gallai Georgia Evans ennill ei chap cyntaf oddi ar y fainc, ynghyd â Ruth Lewis.

‘Anrhydedd fawr’

“Mae’n anrhydedd fawr ond a bod yn onest, mae’r merched yn gwneud fy ngwaith yn haws oherwydd sut maen nhw wedi bod yn ymddwyn fel carfan wrth ymarfer,” meddai Siwan Lillicrap am fod yn gapten.

“Mae’r safonau a’r dwyster ry’n ni wedi’u cyrraedd wedi bod yn wych.

“Dw i’n freintiedig ac wedi cyffroi ar gyfer yr her sydd o’n blaenau ni.

“Ro’n i’n ddigon lwcus o gael sawl cyfle i arwain y tîm yn yr hydref, ond mae cael fy enwi’n gapten ar gyfer y Chwe Gwlad yn anrhydedd fawr i fi a’r teulu.”

  • Mae’r gic gyntaf am 1 o’r gloch.