Mae tîm rygbi merched Cymru yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant yn yr hydref wrth ddechrau ar eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sul (Chwefror 2), yn ôl dwy aelod o’r garfan.

Fe fu Bethan Lewis a’r capten Siwan Lillicrap yn cyfarfod â’r wasg, ynghyd â’r prif hyfforddwr newydd Chris Horsman, yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg heddiw, ar drothwy’r gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal ar Barc yr Arfau ddydd Sul (Chwefror 2).

Enillon nhw dair gêm a cholli dwy yn yr hydref ac maen nhw’n hyderus ar ddechrau’r gystadleuaeth.

Ac fe gafodd y garfan hwb heddiw gyda’r newyddion fod Jasmine Joyce a Hannah Jones yn dychwelyd i’r tîm ar gyfer gêm gynta’r Chwe Gwlad.

“O’n ni wedi cael autumn series oedd yn gyffrous iawn ac y’n ni’n datblygu fel tîm,” meddai’r capten Siwan Lillicrap. 

“Ni mo’yn trio pethau eraill. Ni wedi bod yn traino’n dda ond mae Pencampwriaeth yn bwysig i ni i ddangos i’r Chwe Gwlad pa lwybr y’n ni arno i wneud ‘prep’ ar gyfer Cwpan y Byd flwyddyn nesa’. 

“Mae llawer o gapiau newydd yn y sgwad ac un sydd heb gael cap eto. Ond os basech chi’n edrych arnon ni’n traino, fyddech chi ddim yn gwybod pwy sydd â llawer o gapiau neu ddim ond un neu ddau. 

“Ni mewn lle da fel sgwad ac ry’n ni’n edrych ymlaen i weld beth allwn ni wneud ar y penwythnos.

“Mae’r Eidal yn dîm gwych. Draw gawson ni tymor diwetha’, 3-3 allan yn yr Eidal ond collon ni’r flwyddyn cyn hynny. 

“Dyw hi ddim yn mynd i fod yn gêm hawdd, ond ni’n edrych ymlaen i’r occasion ac os y’n ni’n edrych ar sut mae traino wedi bod a chanlyniadau’r autumn series, ni mewn lle da.

“Os y’n ni’n gallu gwneud popeth ni’n gwneud ar y training pitch yn y gêm, fi’n credu bo ni’n mynd i gael result.”

‘Y perfformiad sy’n bwysig’

Yn ôl Bethan Lewis, fe ddaw’r canlyniad dim ond bod y perfformiad yn ddigon da.

“Wrth gwrs bo ni’n mo’yn ennill,” meddai. “Ni wedi bod yn gweithio ar y perfformiadau. 

“Gaethon ni autumn da a gobeithio bo ni’n gallu adeiladu ar hwnna. 

“Ni’n gweithio ar behaviour a stwff. Os ni’n edrych ar ôl pethau fel ’na ac yn tynnu’n hunain lan ac yn traino’n dda, fi’n meddwl bydd y sgôr terfynol yn edrych ar ôl ei hunan. 

“Perfformiad sy’n bwysig i ni wrth fynd i mewn i’r Chwe Gwlad.”