“Ni’n mynd ma’s i ennill y gystadleuaeth” yw neges Stephen Jones, hyfforddwr ymosod tîm rygbi Cymru, ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fu’n siarad ar drothwy’r gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 1), wrth i Gymru geisio amddiffyn eu teitl o dan y prif hyfforddwr newydd Wayne Pivac, sy’n olynu Warren Gatland.
Dyma’i Bencampwriaeth gyntaf yn y swydd, ac yntau wedi cymryd yr awenau yn ystod Cwpan y Byd ar ôl i Rob Howley orfod mynd adref o Japan yn sgil helynt betio.
“Mae’n gyffrous, mae mor syml â hynny, yr un teimlad ag o’n i’n ei gael fel chwaraewr ar ddechrau cystadleuaeth y Chwe Gwlad,” meddai.
“Fi’n ffodus iawn fel hyfforddwr bo fi’n gweithio efo’r chwaraewyr gorau yn y byd.
“Maen nhw mo’yn gwella, mo’yn datblygu a mo’yn ail-ennill y gystadleuaeth.
“Beth sy’n bwysig o safbwynt hynny yw ein bod ni, yn feddyliol, yn y lle cywir a’n bod ni’n mynd ma’s ar y cae efo hyder, mofyn y bêl a dangos ein doniau.
“Dyna’r agwedd mae’n rhaid i ni gael.”
Hyfforddwr newydd – steil newydd?
Fe fu cryn drafod y gallai Wayne Pivac newid steil Cymru fel bod y bêl yn cael ei symud yn gynt ar draws y cae, ac y bydd mwy o bwyslais ar yr olwyr.
Ond yn ôl Stephen Jones, nid dros nos y mae gwneud newidiadau o’r fath.
“Mae e’n cymryd amser.
“Ni’n ffodus bo ni wedi cael wythnos dda efo’r chwaraewyr ond ni’n sylweddoli i ddatblygu’n gêm ni, mae’n mynd i gymryd amser.
“Ni’n ffodus fod y chwaraewyr sydd efo ni’n chwaraewyr o’r safon orau ac maen nhw’n mo’yn ehangu’r ffordd maen nhw’n chwarae.
“O safbwynt y garfan a’r tîm hyfforddi, ni’n mynd ma’s i ennill y gystadleuaeth.”
Y gwrthwynebwyr
Mae’n gyfnod newydd i’r Eidal, gyda Franco Smith yn brif hyfforddwr dros dro yn dilyn ymadawiad Conor O’Shea yn yr hydref.
Ond mae’r tîm hyfforddi ar y cyfan wedi aros yr un fath, ac fe allai hynny fod o fantais i Gymru.
“Ni’n bendant yn disgwyl rhywbeth newydd oherwydd mae Franco Smith yn eu hyfforddi nhw nawr.
“Mae e’n hyfforddwr creadigol iawn, so mae rhaid i ni ddisgwyl popeth o safbwynt eu gêm ymosod nhw.
“Maen nhw wedi cadw’r un hyfforddwr amddiffyn felly o safbwynt ein gêm ymosod ni, ni’n disgwyl yr un siâp oddi wrthyn nhw.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bo ni’n torri eu hamddiffyn nhw i lawr.”