Mae hyfforddwr ymosod Cymru Stephen Jones wedi rhoi diweddariad ffitrwydd positif cyn i Gymru herio’r Eidal ddydd Sadwrn (Chwefror 1).

Mae’r wythwr Taulupe Faletau, y chwaraewr di-gap Louis-Rees Zammit a’r cefnwr Johnny McNicholl i gyd yn hyfforddi.

Ac mae’r canolwr Owen Watkin wedi cymryd rhan yn ei sesiwn gyntaf heddiw (dydd Mawrth Ionawr 28).

“Roedd Owen Watkin yn hyfforddi gyda ni bore ’ma, felly mae o’n gwneud yn dda,” meddai Stephen Jones.

“Mae’n wych gweld y bechgyn yma (Taulupe Faletau a Louis-Rees Zammit) yn dod yn ôl yn holliach.”