Mae Dmitri Arhip, prop pen tynn y Gleision, wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r rhanbarth.

Dydy’r rhanbarth ddim wedi cadarnhau hyd y cytundeb, ond maen nhw’n dweud ei fod yn un tymor hir.

Ymunodd â rhanbarth y brifddinas yn 2018 ar ôl saith mlynedd gyda’r Gweilch, ac mae e wedi chwarae mewn 18 o gemau hyd yn hyn.

“Mae fy nheulu’n hapus iawn yng Nghymru, mae fy mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg a dyma ein cartref ni,” meddai wrth wefan y rhanbarth.

“Rydyn ni’n adeiladu carfan dda iawn gyda chwaraewyr profiadol ac ifanc yn torri drwod.

“Mae’n dîm sy’n gallu symud yn ei flaen i ennill rhywbeth, dw i’n meddwl.”

Dywed John Mulvihill, prif hyfforddwr y Gleision, fod Dmitri Arhip yn “un o’r propiau sgrymio gorau” yn y PRO14, a’i fod yn “rhan fawr” o gynlluniau’r rhanbarth.