Mae pryderon am ffitrwydd Louis Rees-Zammit cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe wnaeth asgellwr 18 oed Cymru anafu ei ffêr wrth chwarae i Gaerloyw yn erbyn Toulouse ddiwrnodau’n unig ar ôl iddo gael ei gynnwys yng ngharfan Wayne Pivac.

Y gobaith yw y bydd e’n ddigon ffit i chwarae rhan yn y gystadleuaeth, ond mae hyfforddwr ei glwb, Johan Ackermann yn dweud ei bod hi’n rhy gynnar i wybod pa mor ddifrifol yw’r anaf.

Sgoriodd e gais yn y gêm Ewropeaidd.

Bydd Cymru’n herio’r Eidal ar ddiwrnod cynta’r gystadleuaeth ar Chwefror 1.