Mae canolwr Gleision Caerdydd, Willis Halaholo, yn credu mai hiliaeth sydd wrth wraidd rhai o’r sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol yn beirniadu’r ffaith iddo gael ei gynnwys yng ngharfan rygbi Cymru y llynedd.

Mae teulu Willis Halaholo yn dod o Tonga a chafodd ei eni a’i fagu yn Seland Newydd. Mae’n gymwys i chwarae dros Gymru am ei fod wedi byw yma am dair blynedd.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan rygbi Cymru ym mis Tachwedd y llynedd ar gyfer yr ornest yn erbyn y Barbariaid.

Bu’n rhaid i Willis Halaholo, 29 oed, dynnu nôl o’r garfan yn dilyn anaf i’w ben-glin ond roedd wedi beirniadu’r sylwadau ar Twitter  ar y pryd.

Dywedodd ei fod yn rhwystredig bod Hadleigh Parkes a Johnny McNicholl, sydd hefyd yn dod o Seland Newydd, heb wynebu’r un feirniadaeth.

Fe wnaeth ei sylwadau ar bodlediad Scrum V y BBC gan ddweud bod rhai o’r sylwadau amdano ar Twitter wedi bod yn “hiliol”.

“Dw i wedi gweld dau chwaraewr arall sy’n dod o Seland Newydd yn cael croeso mawr ond wedyn mae ’na farciau cwestiwn amdana’i. Dw i ddim  yn gwybod os ydy hynny’n rhywbeth i wneud efo hil neu’r ffordd ydw i, fy nghymeriad… dw i ddim yn siŵr.

“Ro’n i wedi gweld rhai sylwadau hiliol.”