Mae rheolwr tîm rygbi Cymru Wayne Pivac wedi enwi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae pum chwaraewr sydd heb ennill cap yn y garfan, gyda chanolwr y Saracens Nick Tompkins ac asgellwr 18 mlwydd oed Gloucester Lois Rees-Zammit wedi cael eu cynnwys yn y garfan.

Yn ymuno a nhw bydd prop Sale Sharks Will Griff Johns, clo’r Wasps Will Rowlands ac asgellwr y Scarlets Johnny McNicholl.

Mae Rhys Webb yn ôl yn y garfan am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2017.

Nid yw Jonathan Davies ar gael ar gyfer y bencampwriaeth gan ei fod yn dioddef o anaf.

Ar ôl methu Cwpan y Byd, mae’r wythwr Taulupe Faletau yn holliach, yn o gystal â’r canolwr Owen Watkin a’r cefnwr Liam Williams.

Ond does dim lle yn y garfan i’r props Nicky Smith a Samson Lee.

“Rydym wedi cyffroi i enwi ein carfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad,” meddai Wayne Pivac.

“Mae lot o ymdrech wedi mynd i mewn i ddewis y garfan. Mae’r holl hyfforddwyr wedi bod o gwmpas, yn edrych ar chwaraewyr yn ymarfer, siarad gyda nhw, ac rydym yn hapus iawn gyda’r grŵp sydd gennym ni.”