Bydd y mewnwr Rhys Webb yn gymwys i chwarae i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Daw hyn wedi iddo gyhoeddi ei fod yn dychwelyd i’r Gweilch wedi i glwb Toulon gytuno i’w ryddhau o’i gytundeb yn gynnar.

Mae gan y mewnwr 31 o gapiau dros ei wlad, ond nid yw wedi chwarae i Gymru ers Rhagfyr 2017.

Bydd yn cystadlu gyda Gareth Davies, Tomos Williams ac Aled Davies am safle’r mewnwr yn nhîm Wayne Pivac.

Cefndir

Pan symudodd Rhys Webb i chwarae i glwb Toulon yn Ffrainc, fe gollodd yr hawl i chwarae tros ei wlad.

Mae gan yr Undeb Rygbi reol sy’n gwahardd unrhyw chwaraewr gyda llai na 60 o gapiau rhag chwarae i’w gwlad, os ydyn nhw gyda chlwb y tu allan i Gymru.

Dywed Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad: “Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau bod Rhys Webb yn gymwys i gael chwarae ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2020.”