Mae pryderon am ffitrwydd Dan Biggar, maswr Cymru, ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Daeth e oddi ar y cae yn ystod hanner cyntaf gêm Northampton yn erbyn Caerloyw ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 28).

Y gred yw iddo gael anaf i ran ucha’r goes chwith.

Cafodd e driniaeth ar y cae a wnaeth e ddim chwarae yn yr ail hanner.

Dydy Chris Boyd, prif hyfforddwr Northampton, ddim wedi dweud am ba hyd mae’n disgwyl i’r maswr fod allan.

Mae disgwyl iddo fe gael rhagor o brofion dros y dyddiau nesaf.

Mae’r sefyllfa’n pentyrru gofidion Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, gydag anafiadau eisoes i Gareth Anscombe a Rhys Patchell yn safle’r maswr.