Mae Taulupe Faletau wedi dychwelyd i’r cae rygbi am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn.

Fe chwaraeodd e i Gaerfaddon yn erbyn Sale brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 28).

Cyn hynny, doedd e ddim wedi chwarae ers mis Ionawr.

Bydd y newyddion yn hwb i Gymru a Wayne Pivac ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae e’n falch o fod wedi dod drwyddi,” meddai Stuart Hooper, Cyfarwyddwr Rygbi Caerfaddon.

“Pob clod iddo fe am y gwaith mae e wedi’i wneud ac i’n tîm meddygol ni.

“Ro’n i’n cadw llygad barcud arno fe ac yn meddwl, ‘pryd wnawn ni ddod ag e i ffwrdd?’

“Ond roedd e’n gwneud yn dda ac fe gafodd e sawl eiliad fawr ar ddiwedd y gêm, ond byddech chi’n disgwyl hynny gan chwaraewr o’i safon e.”