Scarlets 44–0 Gweilch

Rhoddodd y Scarlets grasfa go iawn i’r Gweilch yng ngêm ddarbi’r gorllewin yn y Guinness Pro14 ddydd Gŵyl San Steffan.

Roedd chwe chais i’r tîm cartref ar Barc y Scarlets, dau yr un i’r asgellwyr, Steff Evans a Ryan Conbeer.

Bu rhaid aros tan chwarter awr cyn yr egwyl am gais cyntaf y noson, Angus O’Brien ac Aaron Shingler yn creu ac Evans yn gwibio o dan y pyst.

Ychwanegodd Conbeer yr ail ar ddiwedd yr hanner cyntaf cyn sgorio’r trydydd ar ddechrau’r ail yn dilyn rhagor o waith creu da gan O’Brien.

Y maswr ifanc a greodd y cais pwynt bonws ar yr awr hefyd, ei gic letraws yn cael ei mesur yn berffaith i Evans ar y chwith ac roedd y pwyntiau llawn yn ddiogel.

Trodd ceisiau hwyr Kieran Hardy a Josh Mcleod y fuddugoliaeth yn grasfa wrth i dymor trychinebus y Gweilch barhau.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r ail safle yn adran B y Pro14 tra mae’r Gweilch yn llithro i waelod adran A.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 25’, 60’, Ryan Conbeer 39’, 54’, Kieran Hardy 64’, Josh Mcleod 73’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 25’, 40’, 65’, Angus O’Brien 74’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 19’, 30’

Cardiau Melyn: Jake Ball 80’, Werner Kruger 80’

.

Gweilch

Cerdyn Melyn: Luke Morgan 53’