Mae’r Scarlets yn dweud bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Crysau Duon, sy’n awyddus i benodi Brad Mooar i dîm hyfforddi Ian Foster.
Mae Ian Foster newydd gael ei benodi’n brif hyfforddwr i olynu Steve Hansen.
Fe fyddai Brad Mooar, a gafodd ei benodi gan y rhanbarth ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn cael ei benodi’n hyfforddwr olwyr Seland Newydd.
Mae’r Scarlets yn gwrthod gwneud sylw tan bod y trafodaethau wedi dod i ben.
Ond mae Brad Mooar yn dweud ei fod e’n wynebu “cyfyng-gyngor” ynghylch ei ddyfodol.
‘Ymwybodol’
“Rydym yn ymwybodol y byddai Ian Foster, sydd newydd ei benodi’n brif hyfforddwr y Crysau Duon, yn dymuno i Brad Mooar ymuno â staff hyfforddi Seland Newydd ar ddiwedd tymor 2019-20,” meddai’r Scarlets mewn datganiad ar wefan y rhanbarth.
“Mae’n gynnar iawn yn y trafodaethau rhwng y Scarlets a Rygbi Seland Newydd ac allwn ni ddim gwneud sylw pellach hyd nes bod y trafodaethau hynny’n dod i ben.”