Dreigiau 25–16 Caerwrangon

Mae’r Dreigiau ar frig grŵp 1 Cwpan Her Ewrop ar ôl trechu Caerwrangon ar Rodney Parade nos Wener.

Cicio cywir Sam Davies a oedd yn bennaf gyfrifol am y fuddugoliaeth yn dilyn cais cynnar Adam Warren.

Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan groedodd Warren am sgôr gyntaf y gêm wedi pas hir Sam Davies.

Llwyddodd Davies gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb i ymestyn y fantais i dri pwynt ar ddeg wedi chwarter awr o chwarae.

Ymatebodd Caerwrangon yn ail hanner yr hanner cyntaf ac roedd y bwlch i lawr i bedwar pwynt erbyn yr egwyl diolch i dair cic gosb o droed yr Albanwr, Duncan Weir.

Croesodd Tom Howe am gais yn gynnar yn yr ail hanner i roi’r ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Ond yn ôl y daeth y Dreigiau diolch i gicio cywir Davies, y maswr yn llwyddo gyda phedair cic gosb arall i ennill y gêm i’w dîm ac amddifadu gwrthwynebywr o bwynt bonws, 25-16 y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r Cymry ar frig grŵp 1 gyda dwy gêm yn weddill, a chydag un o’r rheiny gartref yn erbyn y Rwsiaid, Yenisey STM, mae pethau yn edrych yn addawol i dîm Dean Ryan.

.

Dreigiau

Cais: Adam Warren 3’

Trosiad: Sam Davies 4’

Ciciau Cosb: Sam Davies 9’, 16’, 50’, 59’, 68’, 75’

Cardiau Melyn: Ashton Howe 36’, Brok Harris 44’

.

Caerwrangon

Cais: Tom Howe 46’

Trosiad: Duncan Weir 47’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 20’, 31’, 40’

Cerdyn Melyn: Cornell Du Preez 36’

Cerdyn Coch: Ethan Waller 72’