Mae Alun Wyn Jones yn dweud ei fod e’n anelu am le yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Dde Affrica yn 2021, ar ôl ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Fe ddaeth e i frig y gystadleuaeth ar noson wobrwyo arbennig yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, gyda’r bara-athletwraig Sabrina Fortune yn ail a Jade Jones, yr ymladdwr taekwondo, yn drydydd.

Fe arweiniodd Alun Wyn Jones dîm rygbi Cymru i’r Gamp Lawn a rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Japan eleni, a hynny o dan arweiniad yr hyfforddwr Warren Gatland, a gipiodd y wobr am Hyfforddwr y Flwyddyn.

Tîm Cymru enillodd y wobr am Dîm y Flwyddyn, gyda’r paffiwr Joe Calzaghe yn cael ei anrhydeddu â’r Wobr Cyfraniad Oes.

Etienne Chappell (canwio) a Lily Rice (motocross cadair olwyn) gipiodd y ddwy wobr ieuenctid yn enw Carwyn James.

Blwyddyn ddisglair i rygbi Cymru

Ar ôl serennu i Gymru yn safle’r ail reng eleni, mae enw Alun Wyn Jones yn cael ei grybwyll i arwain y Llewod ymhen dwy flynedd.

Y chwaraewr o Abertawe sy’n dal y record am y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad, gyda 134 – dim ond Richie McCaw, cyn-gapten Seland Newydd sydd â mwy o gapiau (148) o blith holl wledydd y byd.

Fe fydd Alun Wyn Jones yn 36 oed erbyn taith nesa’r Llewod.

“Dw i’n llwyr ymwybodol fod rhaid bod yn ffit ac yn chwarae’n dda i gael eich dewis,” meddai ar ôl derbyn y wobr.

“Os yw’r sêr yn cydsynio a ’mod i’n dal yno, yna penderfyniad rhywun arall fydd hwnnw. 

“Mae colli’n eich sbarduno chi, ond mae’n eich ysbrydoli chi i fynd yn eich blaen hefyd.

“Mae’n eich sbarduno chi ac yn gwneud i chi eisiau cario ymlaen.”

Cyfnod newydd o dan Wayne Pivac

Yn dilyn ymadawiad Warren Gatland, dywed Alun Wyn Jones ei fod e’n edrych ymlaen at gyfnod newydd yng nghrys Cymru o dan hyfforddiant Wayne Pivac.

“Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd y Gamp Lawn ond rhaid edrych hefyd ar ddoniau Josh Adams, Aaron Wainwright, Tomos Williams ac eraill.

“Mae pobol wedi cael cyfleoedd ac wedi gwneud iddyn nhw gyfri.

“Mae hynny fwy na thebyg mor fawr â’r Gamp Lawn a gyda phrif hyfforddwr newydd, mae’n gyfnod cyffrous.

“Mae rhywfaint o loes gyda ni yn deillio o Gwpan y Byd, ac mi ydw i ar lefel bersonol oherwydd aethon ni yno yn credu y gallen ni ennill.”