Dydy tîm rygbi’r Gweilch ddim yn cwyno ar ôl i’r cefnwr Dan Evans weld cerdyn coch ar ôl 37 eiliad o’r gêm yn erbyn Racing 92 yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 7).

Cafodd ei anfon o’r cae gan y dyfarnwr Frank Murphy ar ôl i’w droed daro pen yr asgellwr Teddy Thomas wrth iddo hawlio pêl uchel yn yr awyr.

Roedd disgyblaeth yn broblem i’r rhanbarth, wrth i Scott Williams ac Aled Davies gael eu hanfon i’r cell cosb yn ystod yr hanner cyntaf, wrth iddyn nhw fynd i lawr i 12 dyn am gyfnod.

Collon nhw’r gêm yng Nghwpan Heineken yn y pen draw o 40-19.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod e’n fwriadol,” meddai Carl Hogg, hyfforddwr y blaenwyr, am y digwyddiad.

“Ond dw i’n meddwl, y dyddiau hyn, os ydych chi’n cyffwrdd y pen, mae’r chwaraewr yn mynd i fod mewn trwbwl.

“Yn amlwg, pan ydych chi’n cael cynifer o gardiau melyn a choch, mae disgyblaeth yn broblem.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Dan Lydiate, sy’n dweud bod diogelwch chwaraewyr “o’r pwys mwyaf”.