Bydd taith 2021 y Llewod i Dde Affrig yn dechrau yn Cape Town ddim ond wythnos ar ôl gêm derfynol y Gallagher Premiership.

Mae prif hyfforddwr y Llewod Warren Gatland eisoes wedi lleisio pryder am ddiffyg amser paratoi.

Byddai wythnos gyfan o baratoi gyda’r garfan yn gwneud byd o wahaniaeth i Warren Gatland o’i gymharu â chwaraewyr yn cyrraedd fesul dipyn.

Bydd dwy o’r tair gêm yn erbyn pencampwyr y byd De Affrig yn cael eu cynnal yn Johannesburg.

Mae’r daith yn dechrau ar Orffennaf 3 ac yn para pum wythnos.