Dreigiau 12–39 Zebre

Colli’n drwm a wnaeth y Dreigiau wrth iddynt groesawu Zebre i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Ildiodd y tîm cartref bump cais wrth i’r ymwelwyr o’r Eidal ennill yn gyfforddus yn y frwydr tua gwaelodion adran A.

Naw munud a oedd wedi mynd pan groesodd Jamie Elliott am gais cyntaf Zebre, yr asgellwr yn sgorio wedi cic daclus Carlo Canna.

Ymatebodd y Dreigiau gyda chais Harrison Keddie, yr wythwr yn croesi o dan y pyst yn dilyn bylchiad da Jack Dixon trwy’r canol.

Cyfartal wedi chwarter y gêm felly ond roedd yr Eidalwyr chwe phwynt ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i ddwy gic gosb o droed Canna.

Wedi hanner cyntaf cymharol agos, llwyr reolodd yr ymwelwyr yr ail gan groesi am eu hail gais bedwar munud yn unig wedi’r ail ddechrau. Edoardo Padovani a sgoriodd hwnnw wedi dadlwythiad destlus Elliott.

Symudiad taclus a arweiniodd at drydydd cais Zebre yn fuan wedyn, gyda’r canolwr, Tomasso Boni, yn ei orffen.

Golygodd hynny fod y tîm a oedd heb ennill ers un gêm ar hugain, nid yn unig yn debygol o ennill, ond yn chwilio am bwynt bonws hefyd!

A daeth hwnnw ddeg munud o’r diwedd, Charlie Walker yn gorffen yn gryf ar yr asgell dde wedi pas hir Canna.

Sgoriodd y blaenasgellwr ifanc addawol, Taine Basham, gais cysur i’r Dreigiau wedi hynny. Ond nid oedd hwnnw yn fawr o gysur, yn enwedig wedi i Maxime Mbanda ymateb gyda phumed cais Zebre yn y munudau olaf.

Mae’r Dreigiau yn aros yn bumed yn nhabl adran A er gwaethaf y golled ond dim ond tri phwynt sydd yn gwahanu’r tri isaf bellach.

.

Dreigiau

Ceisiau: Harrison Keddie 18’, Taine Basham 74’

Trosiad: Arwel Robson 19’

.

Zebre

Ceisiau: Jamie Elliott 9’, Edoardo Padovani 44’, Tommaso Boni 51’, Charlie Walker 71’, Maxime Mbanda 77’

Trosiadau: Carlo Canna 11’, 45’, 53’, Biondelli 78

Ciciau Cosb: Carlo Canna 28’, 35