Cymru 43–33 Y Barbariaid

Cymru a aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Barbariaid i’r stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd yng ngêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw brynhawn Sadwrn.

Croesodd y Cochion am chwe chais, un yn fwy na’r gwrthwynebwyr, mewn gêm agored gyffrous.

Hanner Cyntaf

Chwe munud a oedd ar y cloc pan groesodd Josh Adams am gais cyntaf Cymru, yn gorffen yn dda ar yr asgell chwith.

Roedd y Barbariaid yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i feddwl chwim Josh Strauss, yr wythwr yn cymryd cic gosb gyflym cyn ymestyn at y gwyngalch.

Cymru a oedd ar y blaen ar yr egwyl serch hynny diolch i ddau gais ym mhum munud olaf yr hanner. Johnny McNicholl a gafodd y cyntaf yn dilyn cic gosb gyflym Tomos Williams. Ken Owens a gafodd yr ail wedi i dafliad gwael Rory Best ddisgyn yn syth i’w ddwylo.

Ail Hanner

Wedi hanner cyntaf cymharol ddi fflach roedd yr ail yn llawer mwy nodweddiadol o gêm Farbariaid gyda saith cais i ddiddanu’r dorf sylweddol.

Daeth dau o’r rheiny i Gymru yn y deg munud cyntaf, chwarae agored a dwylo da yn arwain at ail i Owens a gwaith da Tomos Williams a Wyn Jones yn creu ail i Adams.

Ymatebodd y Barbariaid yn dda gyda dau gais mewn pum munud toc cyn yr awr, Curwin Bosch yn sgorio un gyda rhediad unigol da cyn creu’r llall i Shaun Stevenson gyda chic letraws.

Roedd y gêm yn hollol agored erbyn hyn a daeth Gareth Davies oddi ar y fainc i sgorio cais nodweddiadol bron yn syth a rhoi ychydig o olau dydd rhwng y ddau dîm unwaith eto.

Ni wnaeth y Barbariaid, o dan reolaeth Warren Gatland, roi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn ôl o fewn un sgôr gyda deuddeg munud yn weddill diolch i gais yr un gan Craig Millar a Peter Samu.

Golygodd hynny mai cymryd y tri phwynt a oedd dewis Cymru o gic gosb yn y munudau olaf, er mawr siom i ran helaeth o’r dorf ac eilydd fachwr y Barbariaid, Schalk Brits!

Llwyddodd Halfpenny gyda’r gic gan roi deg pwynt o fwlch, 43-33 y sgôr terfynol.

.

Cymru

Ceisiau: Josh Adams 6’, 47’, Johnny McNicholl 35’, Ken Owens 39’, 44’, Gareth Davies 61’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 7’, 40’, 45’, 49’, 63’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 78’

.

Y Barbariaid

Ceisiau: Josh Straus 23’, Curwin Bosch 55’, Shaun Stevenson 59’, Craig Millar 64’, Peter Samu 67’

Trosiadau: Curwin Bosch 25’, 60’, 64’, 68’

Cerdyn Melyn: Marco van Staden 38’