Mae Ffederasiwn Rygbi Ffrainc wedi penodi Shaun Edwards yn hyfforddwr amddiffyn fel rhan o dîm hyfforddi newydd Fabien Galthié.

Fe adawodd ei swydd gyda Chymru ar ddiwedd Cwpan y Byd, a hynny ar ôl 12 mlynedd yn aelod o staff Warren Gatland.

Mae Fabien Galthié wedi disodli Jacques Brunel, oedd wedi camu o’r neilltu ar ôl colli o 20-19 yn erbyn Cymru yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd.

Mae’r penodiad yn golygu y bydd Shaun Edwards yn cydweithio â Raphael Ibanez eto, ar ôl cyfnod gyda’i gilydd yn Wasps.

Ac fe ddaw 15 mis ar ôl i Shaun Edwards gytuno i hyfforddi tîm rygbi’r gynghrair Wigan, er na chafodd e gynnig cytundeb yn y pen draw a phenderfynu aros gyda Chymru dros dro.