Fe ddaeth hi’n glir fod Jonathan Davies a Rhys Patchell angen llawdriniaeth ar ôl cael anafiadau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae golwg360 yn deall y bydd Jonathan Davies allan am dros chwe mis wedi iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin – sy’n golygu na fydd ar gael i chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn y cyfamser, mae Rhys Patchell yn debygol o fpd allan am gyfnod o 12 i 16 wythnos gydag anaf i’w ysgwydd, sy’n golygu y gallai fod yn holliach ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe gafodd Jonathan Davies ei anafu mewn gêm yn erbyn Ffiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd tra bod Rhys Patchell wedi cael anaf yn y gêm trydydd safle yn erbyn Seland Newydd.