Mae merched rygbi Cymru wedi curo Iwerddon o 15-13 yn Nulyn.

Sgoriodd y mewnwr Keira Bevan gais hwyr i gipio’r fuddugoliaeth ar ôl i’r Gwyddelod fod ar y blaen drwy gydol y gêm.

Sgoriodd Linda Djougang ac Enya Breen geisiau i Iwerddon, ond tarodd Cymru’n ôl gyda chais gan Sioned Harries a throsiad a chic gosb gan Robyn Wilkins.

Sgoriodd Ellen Murphy gôl gosb cyn i Keira Bevan groesi yn yr eiliadau olaf.