Gleision 30–17 Cheetahs

Chwaraeodd y Cheetahs am dros awr gyda phedwar dyn ar ddeg wrth i’r Gleision eu trechu yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Cafodd Jasper Wiese ei anfon oddi ar y cae wedi chwarter awr ar Barc yr Arfau cyn i’r tîm cartref reoli’r gêm i sicrhau buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Roedd cic gosb o droed Jason Tovey eisoes wedi rhoi’r Gleision ar y blaen cyn i Aled Summerhill groesi am gais ar y chwith yn dilyn symudiad taclus.

Daeth eiliad fawr y gêm yn fuan wedi hynny, yr wythwr, Wiese, yn derbyn cerdyn coch hollol haeddiannol am anelu ysgwydd i ben Tovey yn ardal y dacl.

Rhoddodd y gic gosb ganlynol y tîm cartref un pwynt ar ddeg ar y blaen ond cafwyd ymateb da gan bedwar dyn ar ddeg yr ymwelwyr.

Yn wir, roedd y Cheetahs ar y blaen bum munud cyn yr egwyl diolch i ddau gais mewn cyfnod o bedwar munud. Daeth y cyntaf o’r rheiny i Rhyno Smith wedi cic gosb gyfym Ruan Pienaar a’r ail i Clayton Blommetjies wedi amddifffyn gwan Matthew Morgan.

Roedd y Gleision yn ôl ar y blaen erbyn yr egwyl serch hynny diolch i ddwy gic gosb o droed Jarrod Evans, y canolwr yn symud i safle’r maswr ac yn cymryd y dyletswyddau cicio wedi i Tovey adael y cae gydag anaf, 17-14 y sgôr wrth droi.

Gyda Gerhardus Oliver yn y gell gosb, dechreuodd y Cheetahs yr ail hanner gyda thri dyn ar ddeg ac fe ddaeth cais annochel braidd i Josh Turnbull.

Rhoddodd trosiad Evans y tîm cartref ddeg pwynt ar y blaen ac er iddynt gael ambell gyfle i fynd am y gornel a cheisio cael pwynt bonws wedi hynny, penderfynu diogelu’r fudduoliaeth a wnaethant ar noson wlyb yn y brifddinas, 30-17 y sgôr teryfnol.

Mae’r Gleision yn aros yn chweched yn nhabl adran B y Pro14 er gwaethaf y fuddugoliaeth.

.

Gleision

Ceisiau: Aled Summerhill 9’, Josh Turnbull 46’

Trosiad: Jarrod Evans 47’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 6’, 15’, Jarrod Evans 37’, 40’ 55’, 58’

Cardiau Melyn: Keiron Assiratti 71’, Jarrod Evans 80’

.

Cheetahs

Ceisiau: Rhyno Smith 28’, Clayton Blommetjies 32’

Trosiadau: Ruan Pienaar 29’, 34’

Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 51’

Cerdyn Melyn: Gerhardus Oliver 40’

Cerdyn Coch: Jasper Wiese 15’