Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli o 29-5 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ym Madrid.

Sgoriodd Olivia Fresneda a Beatriz Dominguez geisiau yn yr hanner cyntaf, wrth i’r Sbaenwyr fynd ar y blaen o 12-0 ar yr egwyl.

Sgoriodd Lourdes Alameda, Anne Fernandez ac Anna Puig geisiau yn yr ail hanner, gyda Patricia Garcia yn cicio dau drosiad.

Daeth cais cysur yn hwyr yn y gêm i Alecs Donovan.