Scarlets 17–13 Cheetahs

Cododd y Scarlets i frig adran B y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth mewn gêm glos yn erbyn y Cheetahs brynhawn Sadwrn.

Steff Evans a Kieran Hardy a gafodd y ceisiau holl bwysig yn yr hanner cyntaf ar Barc y Scarlets.

Ar ddiwrnod mawr i rygbi De Affrica, yr ymwelwyr a gafodd y dechrau gorau gyda Tian Meyer yn sgorio’r cais agoriadol wedi deuddeg munud, y mewnwr yn rhoi cwrs i gic ddeallus Benhard Janse Van Rensburg o’r llinell hanner.

Roedd hi’n gyfartal wedi ychydig dros ugain munud serch hynny, Steff Evans yn croesi wedi symudiad taclus o lein bump.

A Bois y Sosban a oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais Kieran Hardy yn dilyn bylchiad gwreiddiol Johnny McNicholl, 14-7 y sgôr wrth droi.

Caeodd y Cheetahs y bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb Tian Schoeman yn gynnar yn yr ail hanner ac felly yr arhosodd hi tan y chwarter olaf.

Cyfnewidiodd Ruan Pienaar a Dan Jones gic gosb yr un o fewn munud i’w gilydd wrth i’r gêm gyrraedd y deg munud olaf gyda dim ond un sgôr ynddi.

Ac felly yr arhosodd pethau wrth i’r Scarlets ddal eu gafael ar fuddugoliaeth sydd yn eu codi i frig adran B y Pro14.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 22’, Kieran Hardy 37’

Trosiadau: Dan Jones 22’, 39’

Cic Gosb: Dan Jones 68’

.

Cheetahs

Cais: Tian Meyer 13’

Trosiad: Tian Schoeman 15’

Ciciau Cosb: Tian Schoeman 42’, Ruan Pienaan 67’