Mae Cymru yn colli’r gêm am y fedal efydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Y sgôr ar yr hanner amser yw Cymru 10 – 28 Seland Newydd, gyda’r Crysau Duon wedi sgorio pedwar cais.

Hallam Amos sydd wedi sgorio unig gais y Cymry.

Canmol Gatland

Cyn y gêm roedd capten Cymru Alun Wyn Jones wedi bod yn canmol Warren Gatland, gan dalu teyrnged i’r ffaith iddo greu disgwyliadau sydd wedi “myn dwy’r to” yn ystod ei amser yn brif hyfforddwr.

Mae 12 mlynedd Warren Gatland wrth y llyw yn dod i ben ddydd Gwener (Tachwedd 1) yn y gêm i benderfynu pwy yw trydydd tîm gorau’r byd.

Mae Alun Wyn Jones wedi ennill 115 o’i 133 cap yn ystod cyfnod Warren Gatland wrth y llyw.

“Mae o wastad wedi bod efo un llygad ar ddyfodol Cymru. Mae o’n ddyn ffyddlon, nid yn unig i ni fel chwaraewyr, ond i’r wlad a’r swydd,” meddai Alun Wyn Jones am Warren Gatland.

“Dw i wedi bod yn ffodus i chwarae yn ystod ei gyfnod fel rheolwr. Mae o’n un, os nad yr hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes timau hemisffer y gogledd.”