Rywsut neu’i gilydd, mae gobeithion Cymru o gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd yn fyw, er  gwaetha’ colli tir a meddiant i Dde Affrica a dod dan bwysau mawr yn y blaenwyr.

Dim ond ciciau sydd wedi bod ynddi, o ran y sgorio ac, i raddau helaeth, o ran y chwarae agored hefyd ac, ar hyn o bryd, mae Handre Pollard wedi cael tair cic gosb i’r Springboks a Dan Biggar ddwy i Gymru.

Ar yr adegau prin pan mae Cymru wedi gallu lledu’r bêl, maen nhw wedi edrych yn beryglus ond mae gêm galed gicio, llinell a sgarmes De Affrica wedi creu problemau.

Anafiadau

Mae Cymru eisoes wedi colli dau chwaraewr allweddol i anafiadau – Tomas Francis yn cael anaf i’w ysgwydd mewn tacl a’r asgellwr George North ddau funud o ddiwedd yr hanner yn tynnu llinyn y gar pan oedd cyfle i ddilyn cic uchel.

Mae Cymru hefyd wedi dangos ansicrwydd annodweddiadol weithiau wrth fôn y sgarmes, wrth daclo neu fynd am beli uchel ond maen nhw’n para yn y gêm.

Mae’r sgorio wedi pendilio’n gyson 0-3 ar ôl 14 munud, 3-3 ymhen dau funud wedyun. Hanner ffordd trwy’r hanner cynta, roedd hi’n 3-6 ac wedyn yn 3-9 gyda chwech munud ar ôl.

Fe drawodd Cymru’n ôl yn gyflym eto efo tri munud o bwysau da a’i gwneud hi’n 6-9.

Y pryder

Ond fe fyddan nhw’n poeni am rym y Boks wrth yrru ymlaen, yn enwedig o gofio bod chwech blaenwr mawr ffresh ar eu mainc … ond mi allai un cais wneud gwahaniaeth anferth.