Mae Lloegr wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd – a hynny am y tro cyntaf ers deuddeg mlynedd – ar ôl curo Seland Newydd o 19-7 yn Japan.

Dyma’r tro cyntaf i Seland Newydd golli gêm yng Nghwpan y Byd ers 2007, ar ôl ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn olynol, yn 2011 a 2015.

Does neb erioed wedi ennill y gystadleuaeth dair gwaith yn olynol.

Bydd Lloegr yn herio Cymru neu Dde Affrica yn y rownd derfynol, gyda’r gêm gyn-derfynol arall yn cael ei chynnal bore fory (dydd Sul, Hydref 27).

Manylion y gêm

Aeth y Saeson ar y blaen o fewn 97 eiliad, wrth i’r blaenwyr ennill tir cyn i’r canolwr Manu Tuilagi groesi am y cais cyntaf ac Owen Farrell yn trosi i’w gwneud hi’n 7-0.

Chwaraeodd Seland Newydd yn eu hanner eu hunain am ryw wyth munud wrth i Loegr gynyddu’r pwysau arnyn nhw.

Daethon nhw’n agos i ymestyn eu mantais ar ôl 24 munud pan redodd y blaenasgellwr Sam Underhill tuag at y llinell, ond dangosodd y fideo fod Tom Curry wedi croesi’r sgoriwr.

Ciciodd George Ford gic gosb dwy funud cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 10-0.

Dim ffordd yn ôl

Daeth cyfle cynnar yn yr ail hanner i Loegr ymestyn eu mantais ymhellach ond methodd Elliot Daly â chic gosb.

Cafodd cais ei ganslo am yr ail waith pan groesodd y mewnwr Ben Youngs ar ôl 45 munud, wrth i Loegr gamsefyll.

Roedd gan Loegr fantais o 13 o bwyntiau wrth i George Ford gicio cic gosb arall, ac roedd amser yn dechrau rhedeg allan i’r Crysau Duon.

Daeth cais i Seland Newydd wrth i Loegr golli eu gafael ar y bêl i alluogi Ardie Savea, y blaenasgellwr, i sgorio cais.

Ond ciciodd George Ford drydedd cic gosb i sicrhau bod gan Loegr fantais o naw pwynt ar ddechrau chwarter ola’r gêm.

Daeth pedwaredd cic gosb i Loegr i’w gwneud hi’n 19-7.