Mae Jonathan Davies yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.
Doedd y canolwr ddim ar y cae ar gyfer y fuddugoliaeth agos dros Ffrainc y penwythnos diwethaf, a hynny ar ôl derbyn anaf i’w ben-glin.
Yn y cyfamser, mae Leigh Halfpenny wedi cael ei ddewis yn safle’r cefnwr yn dilyn y newyddion ddydd Iau (Hydref 24) y bydd Liam Williams yn colli gweddill y gystadleuaeth oherwydd anaf i’w ffêr.
Bydd Leigh Halfpenny yn ymuno â Josh Adams a George North yn y cefn, tra bydd Jonathan Davies ynghanol y cae gyda Hadleigh Parkes.
Y gêm yn Yokohama ddydd Sul (Hydref 27) fydd yr hanner canfed tro i Gareth Davies wisgo crys coch ei wlad. Bydd y mewnwr yn parhau â’i bartneriaeth gyda’r maswr, Dan Biggar.
Wyn Jones, Ken Owens a Tomas Francis fydd unwaith eto yn ffurfio’r rheng flaen, tra bydd y capten, Alun Wyn Jones, yng nghwmni Jake Ball yn yr ail reng.
Y tu ôl iddyn nhw wedyn fe fydd Aaron Wainwright, Justin Tipuric a Ross Moriarty.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c.), Aaron Wainwright, Justin Tipuric.
Ar y fainc
Elliot Dee, Rhys Carre, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Shingler, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.