Mae prif hyfforddwr rygbi De Affrica  wedi disgrifio Warren Gatland fel “ffigwr chwedlonol yn y gêm”.

Daw sylwadau Rassie Erasmus wrth i’r ddwy ochr baratoi i herio ei gilydd yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Bys ddydd Sul (Hydref 27).

Mae gan Warren Gatland ddwy gêm ar ôl fel prif hyfforddwr Cymru – y gêm gyn-derfynol, cyn wynebu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd neu gêm y trydydd safle wedi hynny.

“Mae ei ganlyniadau ar y cae gyda Chymru a’r Llewod yn siarad drostyn nhw’u hunain,” meddai Rassie Erasmus. “Mae o’n ffigwr chwedlonol… yn legend.”

Warren Gatland fydd yn hyfforddi’r Llewod yn erbyn De Affrica yn 2021.

“Mi ga’ i ei weld eto yn y dyfodol,” meddai Rassie Erasmus wedyn, wrth ystyried hynny.