Mae is-hyfforddwr Cymru wedi talu teyrnged i’r capten, Alun Wyn Jones, wrth iddo baratoi i arwain y crysau cochion yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn erbyn De Affrica.
Bydd Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 133 dros ei wlad ddydd Sul (Hydref 27).
“Mae o wastad wedi eisiau bod y gorau, a dros gyfnod hir o amser mae e wedi cyflawni hynny,” meddai Neil Jenkins.
“Mae e i weld yn gwella gydag oed!” meddai wedyn.
“Mae Cymru wedi cael chwaraewyr anhygoel ar hyd y blynyddoedd, ac mae e yn bendant yn un ohonyn nhw – os nad y gorau.”