Mae asgellwr Gleision Caerdydd, Owen Lane, wedi cael ei alw i garfan Cymru yn Japan.

Gwnaeth Owen Lane ei ymddangosiadau cyntaf i Gymru yn y gemau paratoi, a sgoriodd gais yn erbyn Iwerddon.

Bydd Owen Lane yn cyrraedd Tokyo yn hwyrach ymlaen heddiw (dydd Mawrth, Hydref 22).

Mae Cymru yn wynebu De Affrig yn Yokohama ddydd Sul (Hydref 27).