Mae tîm rygbi Cymru wedi cael siom ar fore eu gêm wyth olaf yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd yn dilyn y newyddion fod y canolwr Jonathan Davies allan ag anaf i’w ben-glin.

Fe gafodd e’r anaf wythnos a hanner yn ôl yn ystod y gêm yn erbyn Ffiji.

Owen Watkins fydd yn cymryd ei le, gyda Leigh Halfpenny ymhlith yr eilyddion.

Mae newyddion gwell o ran George North, sydd wedi gwella o anaf i’w ffêr, ac mae Dan Biggar yn holliach yn dilyn cyfergyd.