Fe aeth Cymru i mewn ar yr hanner yn siomedig iawn ar ôl i gamgymeriadau a chamddisgyblaeth roi chwephwynt i Wrwgwai a dod â nhw o fewn un i Gymru.

Er gwaetha’ mwy o’r bêl a’r tir, dim ond un cais a gafodd Cymru – hynny ar ôl 16 munud a phum munud da o bwyso caled ar linell y tîm o Dde America.

Yn y diwedd, ar ôl cyfres o giciau cosb a hyrddiadau, fe lwyddodd y prop Nicky Smith i groesi a Rhys Patchell yn trosi.

Ond, yn lle adeiladu ar eu goruchafiaeth, fe fethodd Cymru dro ar ôl tro i fanteisio ar bêl lân.

Ildio pwyntiau

Er i’r asgellwr Hallam Amos groesi ar ôl 25 munud, roedd y bas ola’ gan Hadleigh Parkes ychydig ymlaen.

Roedd symudiadau felly’n dangos y gallai Cymru sgorio wrth basio’n gyflym a dangos amynedd ond oherwydd camgymeriadau a chamddisgyblaeth, fe ildion nhw’r fantais a methu â defnyddio eu goruchafiaeth ymhlith y blaenwyr.

Yn y cyfamser, roedd Wrwgwai wedi dangos eu bod yn fywiog a chyflym y tu cefn i’r sgrym ac, yn Felipe Berchesi, fod ganddyn nhw giciwr peryglus. Fe drosodd ddwy gic gosb – un ar ôl 21 munud, y llall ar ôl 38.

Arwydd o hynt y gêm oedd fod Cymru wedi cicio i’r ystlys wedi’r 40 yn hytrach na pharhau i chwarae.

Fe allai’r 15 – gyda 13 newid ers y gêm yn erbyn Fiji – ddisgwyl pregeth hallt hanner amser.