Mae 13 newid yn nhîm rygbi Cymru i herio Wrwgwái yng Nghwpan Rygbi’r Byd am 9.15 fore heddiw (dydd Sul, Hydref 13).

Dim ond y canolwr Hadleigh Parkes a’r asgellwr Josh Adams sy’n cadw eu llefydd.

Y blaenasgellwr Justin Tipuric fydd yn arwain y tîm yn Kumamoto, yn un o’r gemau sydd wedi goroesi’r tywydd.

Byddai buddugoliaeth a lle ar frig y grŵp yn golygu gêm yn erbyn Ffrainc yn rownd yr wyth olaf.

Bydd y gêm rhwng Japan a’r Alban am 11.45 yn mynd yn ei blaen, ac mae Tonga eisoes wedi curo’r Unol Daleithiau o 31-19.

Ond mae’r gêm rhwng Namibia a Chanada wedi’i chanslo oherwydd y teiffŵn.

Cymru: L Halfpenny; J Adams, O Watkin, H Parkes, H Amos; R Patchell, A Davies; N Smith, R Elias, D Lewis, B Davies, A Beard, A Shingler, J Tipuric (capten), A Wainwright.

Eilyddion: E Dee, R Carre, W Jones, J Ball, R Moriarty, James Davies, T Williams, G Davies.