Dywed Rygbi’r Byd eu bod “wedi eu siomi” wrth i Bennaeth Rygbi’r Alban geisio am gyngor cyfreithiol ynglŷn â’u gornest dyngedfennol yn erbyn Japan.

Mae’r gêm rhwng Japan a’r Alban fore Sul yn y fantol, ac fe allai hi gael ei chanslo oherwydd tywydd garw.

O’i chanslo, byddai’r Alban yn colli’r cyfle i ennill y gêm a mynd trwyddo i rownd yr wyth olaf.

Mae Mark Dodson, Pennaeth Rygbi’r Alban, wedi annog y corff llywodraethu i symud lleoliad y gêm yn erbyn Japan fel nad yw’n cael ei effeithio gan Typhoon Hagibis.

Sbardunodd hyn oll ymateb cryf gan Rygbi’r Byd, sy’n dweud eu bod “wedi eu siomi” gyda sylwadau Mark Dodson.

Yn ôl Rygbi’r Byd mae’r Albanwyr eisoes wedi dweud eu bod yn fodlon gyda rheolau’r gystadleuaeth sydd ddim yn caniatáu i gemau grŵp gael eu hail-drefnu yn ystod y twrnament.

Bydd y penderfyniad i chwarae’r gêm neu beidio yn cael ei wneud ar fore’r gêm ddydd Sul (Hydref 13).