Gleision 11–19 Caeredin
Colli a fu hanes y Gleision wrth iddynt groesawu Caeredin i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Roedd yr Albanwyr bwynt ar y blaen mewn gêm agos cyn i gais hwyr Mark Bennett selio fuddugoliaeth iddynt.
Rhoddodd dwy gic gosb gynnar Jaco van der Walt chwe phwynt ar y blaen cyn i’r Gleision ymateb gyda chais.
Cais da ydoedd hefyd, meddiant glân o’r lein a symudiad taclus o’r cae ymarfer yn arwain at sgôr i Owen Lane ar yr asgell.
Methodd Jarrod Evans y trosiad cyn llwyddo gyda chic gosb i roi’r Gleision ar y blaen am y tro cyntaf bum munud cyn yr egwyl.
Roedd yr Albanwyr bwynt ar y blaen ar hanner amser serch hynny diolch i drydedd cic lwyddiannus van der Walt, 8-9 y sgôr wrth droi.
Adferodd Evans fantais y Gleision gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i van der Walt ymateb gyda’i bedwaredd ef ddeg munud yn ddiweddarach.
Roedd hi’n dod yn gynyddol amlwg y byddai cais yn ddigon i’w hennill hi ac yn anffodus i’r Gleision, yr ymwelwyr a gafodd hwnnw chwe munud o’r diwedd, Bennett yn croesi wedi bylchiad ei gyd ganolwr, George Taylor.
Rhoddodd trosiad van der Walt ddwy sgôr rhwng y timau am y tro cyntaf yn y gêm ac nid oedd ffordd yn ôl i’r Gleision, 11-19 y sgôr terfynol.
.
Gleision
Cais: Owen Lane 18’
Ciciau Cosb: Jarrod Evans 35’, 45’
Cerdyn Melyn: Seb Davies 27’
.
Caeredin
Cais: Mark Bennett 74’
Trosiad: Jaco van der Walt 75’
Ciciau Cosb: Jaco van der Walt 3’, 10’, 36’, 54’
Cerdyn Melyn: Fraser McKenzie 13’