Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, eisiau i’w dîm gael yr “hwb seicolegol” o orffen ar frig eu grŵp yng Nghwpan y Byd yn Japan.

Maen nhw eisoes wedi curo Georgia ac Awstralia, a byddai dwy fuddugoliaeth arall yn erbyn Ffiji ac Wrwgwái yr wythnos hon yn sicrhau eu lle ar y brig ar drothwy rownd yr wyth olaf.

“Os ydych chi’n ennill y grŵp, mae’n hwb seicolegol enfawr oherwydd rydych chi’n chwarae gêm yn rownd yr wyth olaf yn erbyn tîm a fyddai wedi colli gêm yn eu grŵp nhw,” meddai wrth WRU TV.

“Dw i’n credu yn seicolegol ei fod yn bwysig iawn i ni ennill y grŵp hwn, ennill y ddwy gêm nesaf ac yna dechrau meddwl am ein gwrthwynebwyr yn rownd yr wyth olaf.”