Glasgow 21–25 Scarlets
Sgoriodd y Scarlets dri chais mewn cyfnod o chwe munud ar ddechrau’r ail hanner i drechu Glasgow yn y Guinness Pro14 ar Scotstoun nos Wener.
Roedd hi’n gyfartal ar yr egwyl ond cymerodd y Cymry reolaeth o’r gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda cheisiau Hardy, Asquith a Steff Evans.
Chwe phwynt yr un a oedd hi ar hanner amser yn dilyn cic gosb yr un gan Brandon Thompson a Dan Jones.
Ychwanegodd Thompson dri phwynt arall i roi Glasgow ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond roedd ymateb y Scarlet yn gyflym ac yn bendant.
Kireran Hardy a sgoriodd y cais cyntaf, yn croesi wedi bylchiad gwreiddiol Paul Asquith. Ar ôl creu’r cyntaf, Asquith a sgoriodd yr ail yn dilyn rhyng-gipiad Johnny McNicholl.
Chwaraeodd Steff Evans ei ran yn yr ail gais hefyd a’r asgellwr a sgoriodd y trydydd ei hun. Digwyddodd y cyfan o fewn ychydig funudau ond rodd yr ymwelwyr 16 pwynt ar y blaen gydag ychydig llai na hanner awr yn weddill.
Yn ôl y daeth Glasgow gyda chais yr un gan Thompson a Stafford McDowall ond dim ond digon am bwynt bonws a oedd hynny, 21-25 y sgôr terfynol o blaid Bois y Sosban.
.
Glasgow
Ceisiau: Brandon Thompson 63’, Stafford McDowall 73’
Trosiad: Brandon Thompson 64’
Cic Gosb: Brandon Thompson 9’, 40’, 44’
.
Scarlets
Ceisiau: Kieran Hardy 46’, Paul Asquith 49’, Steff Evans 52’
Trosiadau: Dan Jones 47’, Angus O’Brien 50’
Ciciau Cosb: Dan Jones 24’, 38’
Cerdyn Melyn: Josh Macleod 79’