Southern Kings 27–31 Gleision

Tarodd y Gleision yn ôl i drechu’r Southern Kings yn eu gêm agoriadol o’r tymor newydd yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ddwy sgôr ar y blaen ar hanner amser yn Stadiwm Bae Nelson Mandela, Port Elizabeth, ond brwydrodd y Cymry yn ôl i sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi wyth munud pan arweiniodd sgarmes symudol gan bac y Gleision y blaenasgellwr, Olly Robinson, dros y gwyngalch.

Golygodd dwy gic gosb i’r Kings o bobtu’r cais hwnnw mai’r tîm cartref a oedd ar y blaen ac roedd y fantais yn wyth pwynt erbyn hanner amser diolch i gais Tienie Burger a throsiad Demetri Catrakilis.

Dychwelodd y Cymry at dacteg effeithiol y sgarmes symudol yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda chais Liam Belcher yn eu rhoi’n ôl yn y gêm.

Ymatebodd y tîm cartref gyda chais Stefan Ungerer cyn i’r Gleision daro nôl drachefn gyda chais yr un i Matthew Morgan a Kristian Dacey i fynd ar y blaen am y tro cyntaf ers y munudau agoriadol.

Pumed cais yr ymwelwyr a oedd yr uchafbwynt wrth i ddwylo cyflym ryddhau Harry Millard yn y gornel dde wyth munud o ddiwedd yr wyth deg.

Rhoddodd y sgôr honno un pwynt ar ddeg o fantais i’r Cymry gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Andell Loubser i’r Kings.

.

Southern Kings

Ceisiau: Tienie Burger 25’, Stefan Ungerer 50’, Andell Loubser 76’

Trosiadau: Demetri Catrakilis 25’, 50’, 77’

Ciciau Cosb: Demetri Catrakilis 5’, 12’

.

Gleision

Ceisiau: Olly Robinson 8’, Liam Belcher 42’, Matthew Morgan 60’, Kristian Dacey 68’, Harri Millard

Trosiadau: Jarrod Evans 42’, 60’, 68’

Cardiau Melyn: Jarrod Evans 24’, Nick Williams 30’