Mae chwaraewyr Cymru’n barod am yr her fawr yn erbyn Awstralia yfory, yn ôl yr is-hyfforddwr, Shaun Edwards.

Yr enillwyr yn stadiwm Tokyo fydd y ffefrynnau i orffen ar frig Grŵp D, a all olygu taith haws yn y rowndiau terfynol.

“Gadewch inni fod yn onest, rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer hon o’r cychwyn,” meddai Shaun Edwards. “Mae hi am fod yn gêm dyngedfennol.

“Dw i wedi dweud wrth y chwaraewyr fod hon yn gêm y byddan nhw’n ei chofio am weddill eu hoes, ac mae arnon ni eisiau bod yn llwyddiannus ynddi.

“Mae pob gêm yn wahanol ac mae’r ddau dîm o’r radd flaenaf, a’r gobaith yw y bydd yn hysbyseb dda i rygbi fel gêm.”

Ar ôl curo Awstralia 9-6 yn eu gêm ddiwethaf 10 mis yn ôl, mae gobeithion cefnogwyr Cymru’n uchel ar gyfer y gêm yfory.

Mae’n cael ei gweld fel un o’r gemau mwyaf i Gymru ers i Warren Gatland gael ei benodi bron i 12 mlynedd yn ôl.

“Rydym wedi bod ar bigau’r drain drwy’r wythnos,” meddai Shaun Edwards. “Y gwahaniaeth i ni yn y gêm yma yw ein bod ni wedi cael pedwar mis o baratoi, ac fel arfer mae gennym bedwar diwrnod.

“O ran dweud ein bod ni am ennill Cwpan y Byd, nid dyma’n ffordd ni o fynd ati. Ein nod ni yw ennill y gêm nesaf.

“Y gêm nesaf i ni yw Awstralia, ac rydym yn mynd iddi wedi paratoi’n dda yn erbyn gwrthwynebydd cryf. Awn amdani.”