Er iddyn nhw ennill 30-10 yn erbyn Rwsia yng ngêm agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd, roedd yn rhaid i Japan weithio yn galed am y fuddugoliaeth.

Roedd Rwsia yn chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 2011, ond nhw oedd ar y blaen am y rhan fwyaf o’r hanner cyntaf yn eu gêm gyntaf yn ôl yn y gystadleuaeth ers wyth mlynedd.

Ond fe sgoriodd Kotaro Matsushima hat-tric o geisiadau i sbarduno Japan.

Mae’r ddau dîm yn yr un grŵp â’r Alban, Iwerddon a Samoa.

Bydd yr Alan a’r Werddon yn herio’i gilydd yfory gyda’r gic gyntaf am 8.45 y bore yma yng Nghymru.