Mae posibilrwydd na fydd Adam Beard na Cory Hill ar gael i chwarae i Gymru yn y gêm yn erbyn Georgia mewn 10 diwrnod.

Mae disgwyl i Adam Beard ymuno â’r garfan yn Japan ddechrau’r wythnos nesaf ar ôl iddo orfod mynd i’r ysbyty er mwyn tynnu ei bendics.

Ond y gobaith yw y bydd y clo, 23, yn ddigon iach i chwarae yn y gêm yn erbyn Georgia ar Fedi 23 – yr un gyntaf i Gymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2019.

Mae Cory Hill, ar y llaw arall, yn dal i wella o anaf i’w goes. A gobaith y clo, 27, yw dychwelyd i’r garfan ar drothwy’r gêm yn erbyn Awstralia ar Fedi 29.

Bydd tîm Warren Gatland wedyn yn wynebu Ffiji a Uruguay yng nghrŵp D.